Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 10 Chwefror 2016
Amser: 09.05 -
12.15
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3364
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Ann Jones AC (Cadeirydd) Angela Burns AC Suzy Davies AC Lynne Neagle AC David Rees AC Aled Roberts AC Simon Thomas AC |
Tystion: |
Yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru Rachel Thomas, Comisiynydd Plant Cymru Mark Drakeford AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Elizabeth Lockwood, Llywodraeth Cymru Alistair Davey, Llywodraeth Cymru Jo Jordan, Llywodraeth Cymru Dr Sarah Watkins, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Sian Thomas (Ymchwilydd) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 3 MB) Gweld fel HTML (427 KB)
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Keith Davies, John Griffiths a Rhodri Glyn Thomas. Nid oedd Aelodau'n dirprwyo ar eu rhan.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiynydd Plant Cymru.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Rhoddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y diweddaraf i'r Pwyllgor am Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed. Cytunodd y Gweinidog i ddarparu'r canlynol i'r Pwyllgor:
Copi o Gylchlythyr Iechyd Cymru ynghylch presgripsiynu ar gyfer plant a phobl ifanc mewn perthynas â chyffuriau gwrthiselder.
Yr adroddiad terfynol gan Brifysgol Abertawe ar gyffuriau gwrthseicotig.
Manylion pellach am y therapïau seicolegol a fydd ar gael i bobl ifanc ac a fyddant ar gael ledled Cymru.
Adroddiad y rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc a gyhoeddwyd ym mis Ionawr.
Manylion pellach am y data sydd ar gael a gasglwyd ar lefel gofal eilaidd ar gyffuriau presgripsiwn i blant â phobl ifanc ag ADHD.
Cytunodd y Pwyllgor i roi ymateb ysgrifenedig i nifer o gwestiynau na chawsant eu gofyn.
Nodwyd y papurau.
Derbyniwyd y cynnig.
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.
Trafododd y Pwyllgor sut y bydd yn llunio'r adroddiad etifeddiaeth.